Eglwys St Barnabas

Gwasanaethau yn St Barnabas


Croeso i St Barnabas, eglwys ein pentref.

 

Mae’r eglwys ar agor bob dydd, 10 y.b. i 3 y. p. - dewch i edrych o gwmpas, i weddïo neu i fod yn dawel am ychydig.
Hoffem gyfarfod â chi yn un o'n gwasanaethau dydd Sul ddwywaith y mis ac ar gyfer coffi wedyn.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned leol, a disgyblion ac athrawon Ysgol Wirfoddol Penboyr sydd yn defnyddio’r Eglwys yn rheolaidd i ddathlu’r gwyliau Cristnogol blynyddol.

AMSERAU'R GWASANAETHAU

  • 2il Sul: 11:15am Cymun Bendigaid Dwyieithog
  • ​4ydd Sul: 11:15am Cymun Bendigaid Dwyieithog

Noder
Gall amserau ac iaith y gwasanaethau amrywio yn dibynnu ar bwy sy’n arwain y gwasanaeth. Nodir unrhyw newidiadau ar hysbysfwrdd yr eglwys.