Hanes
Eglwys St. Barnabas, Penboyr
1862-1962
(cyfieithiad o erthygl gan Dr. Leslie Baker-Jones yn The Carmarthen Antiquary, 1962)
Mae plwyf Penboyr yng ngogledd orllewin Sir Gaerfyrddin ac yn perthyn i Ddeoniaeth Wledig Emlyn ac Archddiaconiaeth Aberteifi. Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Llawddog a thybir iddi gael ei sefydlu yn y chweched ganrif. Nid nepell o’r eglwys mae gweddillion ceyrydd a thomenni, etc., sy’n dangos bod yr ardal wedi bod yn ganolbwynt treflannau olynol ymhell cyn i Gristnogaeth ddod i’r ynysoedd hyn, ac efallai mai hyn oedd y rheswm dros adeiladu’r eglwys gyntaf mewn lle mor unig.
Ar hyd y canrifoedd bu pererinion ac addolwyr yn dod yma – ac mae’n debyg iddi fod yn ganolfan ysbrydol plwyf o ryw 6,936 o erwau. Gydag amser codwyd capel cyfleus i’r trigolion wedi ei gysegru I’r Drindod Sanctaidd ym mhentref Felindre Siencyn. Capel Bach y’i gelwid a chyfeirir ato ddechrau’r ddeunawfed ganrif, ond ychydig iawn o’I hanes cynnar a wyddys. Bu’n gwasanaethu anghenion trigolion Dre-fach a Felindre. Cynhaliwyd ysgol yno ar un amser yn ogystal â gwasanaethau’r eglwys ynghyd â chyfarfodydd y festri. (gweler tt. 184-185, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, D.E. Jones, Llandyssul, 1899).
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd cyflwr yr adeilad gynddrwg fel bod angen codi lle newydd i addoli yn y pentref. Roedd y diwydiant gwlân yn yr ardal yn ffynnu erbyn hyn – er mai gweithio yn y cartrefi a wnaed o hyd. Eto, roedd Iarll Cawdor, noddwr Rheithordy Penboyr, yn ymwybodol o’r newidiadau yn y diwydiant a phenderfynodd roi eglwys newydd i blwyf Penboyr.
Awgrymwyd y syniad yn wreiddiol gan John Frederick Campbell, 2il Farwn a Iarll 1af Cawdor (1790-1860), ond bu farw cyn gwneud rhagor ynghylch y prosiect. Yn ffodus, fodd bynnag, penderfynodd J.F. Vaughan, 2il Iarll Cawdor (1817-1898), ar ôl iddo etifeddu’r teitl, gymryd camau uniongyrchol i wireddu dymuniadau ei dad. Felly trwy amrywiol ffyrdd sefydlwyd Eglwys St Barnabas yn 1862, ac mae’n dathlu ei chanmlwyddiant eleni.
Dywedir wrthym i Iarll Cawdor a Mr D.Brandon, y pensaer, ymweld â phlwyf Penboyr ddydd Iau, 13eg Chwefror, 1862, er mwyn dewis lleoliad i’r eglwys. “Immediately upon his arrival in the picturesque village of Velindre his lordship proceeded on foot accompanied by the Rev. Wm. Harries to view the different spots recommended as a site for the new church; while Mr. Brandon took another direction to inspect the quarries. After his lordship had made a circuit of several miles distance he returned to the village where he found large goups of tenantry awaiting his arrival.” (Carmarthen Journal – Dydd Gwener, 21ain Chwefror, 1862, & The Welshman yr un dyddiad).
O dystiolaeth yr adroddiadau brwdfrydig yn y wasg roedd hi’n ddydd gŵyl yn Felindre a’r ardal, ac roedd hen ac ifanc, cyfoethog a thlawd, herciog a chlwyfedig wedi dod i weld y tirfeddiannwr ysblennydd! “Addressing them in English he said that he regretted his brief stay would not allow him to see all his tenants, but that he intended visiting the parish again in a few months” (ibid). Eglurwyd hyn i gyd iddynt yn Gymraeg gan y Parchg W. Harries. Yn y cyfamser dychwelodd Mr Brandon o archwilio’r chwareli ac yn y diwedd penderfynwyd ar y lleoliad. “The design is most elegant as would naturally be expected from the distinguished taste of the architect” (ibid). Gyda llaw mae’r eglwys yn syml a chymesur fel na ellir ei beirniadu fel adeilad Gothig Fictoraidd Cynnar! Rhoddwyd y cytundeb adeiladu i Mr. James Rogers o o Ddinbych-y-pysgod, a’r gost fyddai £2,000; ac ar 14eg Chwefror 1862 paratowyd y tir ac agorwyd y chwareli fel y gellid cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser “His Lordship, after the arduous work of the day was over, proceeded to Llysnewydd, the residence of Major Lewes and left on the following morning for Golden Grove.”
Dechreuodd y gwaith yn dda a pharhaodd hyd y flwyddyn ddilynol pan gysegrwyd yr eglwys ar 3ydd Gorffennaf, 1863. O’r un adroddiad yn y wasg dywedir wrthym fod y tywydd yn ffafriol iawn, ac ysgogodd y digwyddiad gryn ddiddordeb yn y gymdogaeth ac amlygwyd hyn gan y nifer fawr o bobl a ddaeth i weld y seremoni. Ychydig cyn 10 o’r gloch cyrhaeddodd Iarll Cawdor ac wedyn daeth Esgob Tyddewi.
Gorymdeithiodd tua deg ar hugain o offeiriaid o dŷ’r Curad (Velindre House heddiw) i’r eglwys. Dechreuodd y gwasanaeth cysegru gyda’r 24ain Salm yn cael eu hadrodd gan yr esgob a’r offeiriaid am yn ail wrth iddynt ymdeithio ar hyd yr ale. Ar ôl i’r Esgob eistedd ar ochr ogleddol y bwrdd cymun, daeth Iarll Cawdor ymlaen at y rheiliau a chyflwyno gweithredoedd safle’r eglwys a’r tir claddu cyfagos i’r Esgob. Wedyn darllenodd Cofrestrydd yr Esgobaeth, Valentine Davis, y petisiwn.
Darllenodd yr Esgob y gweddïau cysegru a darllenodd Canghellor yr Esgobaeth y weithred gysegru ac wedyn fe’i llofnodwyd a’i gosod ar yr allor. Darllenodd y Parchg D.H.T.G. Williams, y Rheithor, drefn y Foreol Weddi a darllenwyd y llithiau gan y Parchg Wm. Harries, Curad, a phregethodd yr Esgob o Salm XXVI, 8. Cyfeiriodd Dr. Thirlwall at farwolaeth y diweddar Iarll Cawdor ac adroddwyd i un o’r gynulleidfa dweud bod cynnwys a thraddodi’r bregeth yn effeithiol dros ben. Yn dilyn hyn cysegrwyd y fynwent ac wedyn gwasanaeth y Cymun Bendigaid. A dyna ddiwedd ar weithgareddau’r bore.
Gweiniwyd pryd o fwyd ysgafn i’r offeiriaid a nifer o leygwyr yn nhŷ’r Curad a cheir rhestr o’u henwau yn y cyfnodolyn Eglwysig Cymraeg Yr Haul, Awst 1863 –
Y Parchedigion D. H. Thackeray Griffiths-Williams, Llwynhelyg, Rheithor; T. Lloyd, Llanfair Orllwyn; R. J. Lloyd, Troed-yr-aur; J. R. Griffiths, Llangeler; J. Sinnett, Bangor Teifi; G. Evans, Llandyfriog; J. Hughes, Penbryn; J. Griffiths, Llandeilo; J. Jones, Llansadwrn; D. Jones, Brechfa; E. Jones, Llanfihangel-ar-Arth; E. Morgan, Llandysul; J. Jones, Llandysilio-gogo; J. Rees, Llangrannog, T. H. Davies, Llangunllo; J. B. Herbert, Cilrhedyn; H. L. Davies, Cenarth; D. Evans, Cilgerran; H. J. Vincent, Llandudoch; Ll. Ll. Thomas, Trefdraeth; H. Morgan, Aberaeron; J. Evans, Llanddeiniol; J. Morgan, Cynwyl; D. R. Jenkins, Llan-llwch; E. Griffiths, Capel Cynon; W. Harries, Curad Penboyr; M. Morgan, Curad Castellnewydd Emlyn; S. Williams, Curad Cenarth; T. James, Curad Llandudoch; T. Rogers, Curad Llangunllo; J. Roberts, Curad Caerfyrddin.
Roedd gwasanaethau’r prynhawn a’r hwyr yn gyfan gwbl yn Gymraeg ac oherwydd y gynulleidfa luosog codwyd llwyfan dros dro yn y fynwent, lle, ar ôl darllen y Litani yn yr eglwys, cafwyd dwy bregeth ragorol a thrawiadol gan y Parchedigion J. Griffiths, Llandeilo a J. Jones, Llansadwrn. Dilynwyd hyn gan wasanaeth llawn arall ac wedyn dwy bregeth hynod ddiddorol wedi eu traddodi’n huawdl gan y Parchg D. Jenkins, ficer Llan-llwch a’r Parchg J. Evans, Llanddeiniol. Y Sul canlynol pregethodd y Parchg J Griffiths, Llandeilo, eto yn yr awyr agored i dyrfa fawr fel y dywedir yn Yr Haul, Awst 1863, “Pregethodd Ficer doniôl Llandeilo .. un o’r pregethau mwyaf hyawdl a chymhwys a glywsom erioed; a bernid fod dros ddwy fil yn ei wrando.” Caewyd capeli’r gymdogaeth i gyd fel teyrnged i’r offeiriad enwog. O ddiddordeb lleol, ganed John Griffiths ym Mynydd Bach, Llandyfriog yn 1805. Addysgwyd ef gan Dafydd Dafis, Castell Hywel and Choleg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan. Ordeiniwyd ef yn Gurad Castellnewydd Emlyn cyn symud i Langeler lle bu’n ficer o 1835-1853. O 1853 hyd ei farwolaeth yn 1878 roedd yn ficer Llandeilo, a daeth yn Ddeon Gwlad, Proctor y Confocasiwn, etc. Yn 1859 cafodd radd B.D., ac yn 1869 derbyniod radd D.D. gan Archesgob Caer-gaint am ei wasanaeth dros yr Eglwys Gymreig.
Felly cysegrwyd St. Barnabas, Penboyr, neu’r Eglwys newydd fel y’i hadnabyddwyd, ac am gan mlynedd chwaraeodd ran bwysig ym mywyd crefyddol yr ardal.
I ddiweddu, gellir ychwanegu mai ychydig o greiriau hanesyddol sydd yn yr eglwys. Yn fuan ar ôl ei chysegru rhoddwyd ffenestr liw ar yr ochr orllewinol i goffáu James Lewes Lloyd, Dol-haidd, a fu farw ar 11eg Gorffennaf, 1858, yn 75 oed, a Joyce Maria Lewes Lloyd a fu farw ar 4ydd Rhagfyr, 1857, yn 83 oed.
Mae’r ffenestr hon yn cynnwys dwy ran yn cynrychioli St. Barnabas a St. Paul, tra bo’r bedeirdalen sy’n cwblhau’r rhwyllwaith yn darlunio arwyddlun teulu’r Lewes-Lloyd, hynny yw: eryr gyda sarff yn ei geg. Mae tair ffenestr y gangell yn darlunio’r Croesholiad, yr Atgyfodiad a’r Esgyniad ac fe’u rhoddwyd gan Iarll Cawdor yn 1862. Ychwanegwyd dwy ffenestr arall ar ochr ddeheuol y Gangell – un yn dangos St. George a’r Ddraig, er cof am y rhai a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-18, a’r llall yn darlunio’r Bugail Da, er cof am y Canon Thomas Jones, Rheithor Penboyr 1889-1914, a’i wraig Margaretta. Yn y festri mae sêff a roddwyd i Eglwys Plwyf Penboyr yn 1815 gan yr Archddiacon Thomas Beynon, a symudwyd hi i St. Barnabas (lle y mae o hyd!) er mwyn diogelwch pan roedd eglwys y plwyf yn cael ei hadfer yn 1889. Ar wahân i rai cerrig coffa, y pedair teilsen ar y llawr yn union y tu fewn i’r drws yn ymyl y bedyddfaen yw’r eitemau eraill o ddiddordeb. Mae dyddiad sefydlu’r eglwys 1862 ar un ac mae dwy arall yn dangos arwyddluniau arfbeisiol teulu’r Cawdor.
Gwasanaeth ailgysegru
Yn 2009 ailweiriwyd yr eglwys, gosodwyd gwresogyddion neywdd dan y corau ac atgyweiriwyd y cafnau y tu allan.Gyda chefnogaeth y Gymuned Leol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi a CADW gwnaethpwyd gwaith adnewyddu ac atgyweirio sylweddol yn 2017/2018 yn cynnwys llechi newydd ar doeon corff a changell yr eglwys, atgyweirio cyffredinol i’r gwaith cerrig y tu allan ac ailaddurno y tu mewn i’r eglwys gan ailbaentio’r arysgrifen ar fwa’r gangell, sef GOGONIANT I DDUW YN YR UCHELDERAU
Ar ol gorffen y gwaith cynhaliwyd gwasanaeth ailgysegru ar 4ydd Chwefror 2018, dan ofal y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi.