Taflenni digwyddiadau arbennig
Dyma grynodebau o gynnwys y taflenni. Gellir gweld y taflenni llawn ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, www.casgliadywerin.cymru. I weld dogfen cliciwch ar y cyswllt â’r wefan ar ddiwedd yr eitem.
1. Cyfrif Cronfa’r Organ [dogfen heb ddyddiad c. 1910-15]
Rhestr o Gyfraniadau a Mantolen
Ysgrifenyddion:
Daniel Jenkins, Evan Powell
Trysoryddion:
John Jones, Parc-cerrig, David Hugh Lewis, Cawdor Mills
Rhestr o 430 o aelodau, ffrindiau etc yr eglwys a’u cyfraniadau ariannol.
Rhoddion:
Croes i’r allor o bres gloyw gan Mrs Hindes, Kirby House
Desg i’r allor o bres gloyw gan Mrs Lewis, Llysderi
Dwy fâs o bres gloyw gan Mrs Jones, Spring Gardens
Mantolen yng nghefn y llyfryn: casglwyd £208.17.6
Gellir gweld y ddogfen trwy glicio www.casgliadywerin.cymru/items/523553
2. Gwasanaeth Cysegru Chwythwr Trydan i’r Organ
er cof am
David Bruce Stewart Bruce-Jones, M.D.
Rhoddedig gan
Dr & Mrs Benjamin Jones, Danygribyn, Felindre
Dydd Sul, Rhagfyr 3, 1939 am 2.00pm.
Rhoddwyd anerchiad gan y Rheithor, Parch C Renowden
Gellir gweld trefn y gwasanaeth yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523507
3. Cronfa Apêl Lleygwyr yr Eglwys yng Nghymru 1952-53
Rheithor Parch Samuel Evans, B.A.
Warden J J Jones, Maesyrywen.
Gellir gweld rhestr o’r 142 o gyfranwyr a’u cyfraniadau ariannol yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523511
4. Gwasanaeth Dathlu Atgyweirio ac Ail-agor yr Eglwys
Dydd Mercher, Rhagfyr 2, 1953.
Cyflwyno’r rhoddion -
Lampau golau trydan:
Mr & Mrs David Jones, Cryngae
Mr & Mrs T Lloyd Jones, Dolhaidd
Mrs Thomas, Greenhill
Mr John Jones, Castle Green
Mrs Griffiths, Blaenhalen
Mr John Jones, Landwr
Mr & Mrs Jones, Goitre
Mr J R Jones, Trecoed
Mrs W H Williams, Cwmbran, er cof am ei rhieni, Mr & Mrs J Lewis, Bronhydden
Mrs M H Davies, er cof am ei thad, Mr John Jones, Tygwyn
Miss Jones, Bargoed Mills
Tabled goffa ar yr organ:
Er cof serchus am Thomas S F Morgan, a fu farw Mai 7, 1950: prifathro Ysgol Felindre; arweinydd y côr ac organydd Eglwys Sant Barnabas am 28 mlynedd, 1918-46.
Rhoddedig gan Mrs Morgan.
Drych ar yr organ:
Rhoddedig gan Mrs J R Jones, Trecoed
Beibl y pulpud:
Rhoddedig gan Mrs M James a Mr D Evans er cof am y diweddar Mrs Sarah Evans, Garden View
Gweddifa y Litani:
Rhoddedig gan Mrs Margaret Jones er cof am ei rhieni, Mr & Mrs Ebenezer Davies, Maesyrywen
Darllenfa:
Er cof am Mr David Evans, Danwaring, rhoddedig gan eu plant.
Ffryntal yr allor:
Er cof am Mrs Elizabeth Evans, Pensarn, rhoddedig gan ei merched, Misses M ac R A Evans.
Ffryntal y pulpud:
Rhoddedig gan Mr & Mrs David Daniels a’r teulu, er cof am Sister Dilys Daniels, Oakford
Ffrytal y weddifa:
Rhoddedig gan Mr & Mrs S J Jones, er cof am y diweddar Mr & Mrs Thomas Jones, Dyffryn
Ffryntal y weddifa:
Rhodd Miss Elizabeth Jones, er cof am ei thad, Mr Henry Jones, Ffynnonfach
Ffryntal y Ddarllenfa:
Rhoddedig gan blant y diweddar Mrs Anne Thomas, er cof serchus amdani.
Pwrs a gorchudd:
Rhoddedig gan Mrs Jones a Mrs Davies, Preswylfa.
Jwg ddŵr arian:
Rhoddedig gan Miss Ruth Davies, Ivy Bush, er cof am y teulu.
Costrel ddŵr arian:
Rhoddedig gan Mr Samuel Howells, Mrs M H Harries a Mrs A Thomas, er cof am Esther Howells a Private Willie Howells.
Plat casglu:
Rhoddedig gan Elizabeth Jane Howells er cof am y diweddar David John Howells.
Bwrdd ysgrifennu i’r festri:
Rhoddedig gan Mri T Jones a’i Fab, Glanywmor.
Gellir gweld trefn y gwasanaeth yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523517
5. Dathlu Canmlwyddiant 1862/3 - 1963
Gorffennaf 10 ac 11, 1963
Rheithor Parch M D Jones, B.A
Y Wardeniaid Mr D Jones, Maesgwilym
Mr J R Jones, Goitre Uchaf
Ysgrifennydd y Cyngor Eglwysig Mr B D Rees, C.M.
Organyddion Mrs Brynmor Williams
Mrs J R Jones, Trecoed
Mr D L Baker –Jones, M.A.
Côr Feistr Mr W Davies
Clochydd Mr Vivian Lote
Pregethwyr
Y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Tŷ Ddewi, Dr J Richard Richards
Y Tra Pharchedig T E Jenkins, B.A., B.D., Tŷ Ddewi
Y Parch. C.R.Renowden, M.A., Coleg Dewi Sant
Cenir y Litani gan y Parch. J.E Davies, B.A., Llandybie
Eglwys St Barnabas, Felindre
Am flynyddoedd cyn adeiladu Eglwys St Barnabas, Felindre, bu pobl yr ardal yn addoli mewn adeilad eglwysig sef Capel y Drindod, neu’r Capel Bach, fel y gelwid ef.
Adeiladwyd hwn tua 1713 ar lan afon Bargod ger y bont rhwng Felindre a Drefach, lle y saif Maesycapel ac Ywenlas yn awr. Cofnodir priodasau ar y llyfrau a dywed traddodiad fod mynwent yno. Wedi gwasanaethu’n hir fel Eglwys ac Ysgol, yr oedd y Capel Bach yn ymddadfeilio’n gyflym iawn tua 1860. Yn 1862 daeth Iarll Cawdor i’r adwy gan roddi daear ac adeiladu Eglwys yn Felindre ar ei draul ei hun. Dewisodd y Pensaer, Mr Brandon o Lundain, ddefnyddio cerrig llwydion golau o rosydd Penboyr, a llechi llwyd-olau o Sir Benfro i gwblhau adeilad hardd. Ar y trydydd o Orffennaf 1863 daeth yr Esgob Thirwall i gysegru Eglwys Sant Barnabas a’r Fynwent ym mhresenoldeb 31 o offeiriaid a thua 2,000 o bobl. Pregethwyd yn huawdl a chymwys gan y Parch, J Griffiths, Ficer Llandeilo.
Wedi derbyn yn hael o law bonheddwr caredig, da yw gweld trigolion yr ardal yn parhau i werthfawrogi eu hetifeddiaeth deg. Yn 1953 gwelwyd atgyweirio a dodrefnu’n hardd gan yr aelodau, a bu ymdrech fawr yn 1962-63 i osod yr Eglwys mewn gwisg deilwng i ddathlu ei chanmlwyddiant.
Diolchwn heddiw am haelioni Iarll Cawdor ac am lafur a thystiolaeth cenedlaethau o Eglwyswyr da a fu’n adeiladu’r traddodiad gwych sydd yn eiddo Eglwys Sant Barnabas.
Cynorthwyed yr Arglwydd ni â’i ras i fod yn deilwng o’n hetifeddiaeth.
Trefn y Gwasanaethau
Nos Fercher, Gorffennaf 10 am 6.30pm
Prynhawnol Weddi a Phregeth gan y Parch. D J Lloyd, B.A., Cilgerran
Dydd Iau, Gorffennaf 11
10.00am Cymun Bendigaid a Phregeth gan y Parch C R Renowden, M.A.
2.30pm Y Litani; cyflwyno’r clwydi newydd, y ffenestr a rhoddion eraill; a phregeth gan yr Arglwydd Esgob.
Agorir y clwydi gan Mr T Davies, Llanbedr, a bydd y plant yn canu “Calon Lân”.
6.30pm Gosber ar gân gan Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, gydag Isganon ac Organydd Tyddewi yn arwain. Pregeth gan y Deon.
Rhoddion i’w cyflwyno
-
Clwydi newydd i borth y fynwent
Rhoddedig gan Mr T Davies, Bon-Marche, Llanbedr, er cof am ei rieni. (Gwerth £200)
-
Ffenestr liwiedig i nodi’r canmlwyddiant
Rhoddedig gan aelodau’r eglwys
-
Blwch arian i ddal bara’r cymun
Rhoddedig gan blant Pen-bont er cof am eu rhieni
-
Ysten bres i’r fedyddfaen
Rhoddedig gan blant Cryngae
-
Clawr i’r fedyddfaen
Rhoddedig gan aelodau er cof am Mrs A Evans, Y Rheithordy, 1941-62
-
Offeryn cynnau a diffodd canhwyllau yr allor
Rhoddedig gan Mr and Mrs D T James, Pleasant View,er cof am eu merch, Maureen.
-
Lliain gwyn coeth i’r allor
Rhoddedig gan Mr E Rees, Penlongoitre, er serchus gof am ei annwyl wraig, Mrs Elizabeth Rees.
-
Llenni gleision bob ochr i’r allor
Lliain gwyn coeth ar yr allor
Cardiau rhif emynau
Matiau wrth ddrws yr eglwys
Rhoddedig gan yr Ysgol Sul.
Gellir gweld trefn y gwasanaethau, y salmau a’r emynau a rhestri o gyfraniadau ariannol aelodau a ffrindiau’r eglwys yn ogystal â mantolen ariannol yn y llyfryn, www.casgliadywerin.cymru/items/523493
6. Gwasanaeth Cyflwyno Ffenestr Liwiedig
gan
Ddeon Tyddewi,
Y Tra Pharchedig T E Jenkins, B.A., B.D.
Dydd Sul, Medi 12, 1965 am 2.30pm.
Rhoddir y ffenestr gan Mrs Margaret Jones, Mesyrywen,
Er gogoniant i Dduw, ac er cof am ei phriod, y diweddar Johnny Jones.
Gellir gweld trefn y gwasanaeth yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523483
7. Gwasanaeth Cyflwyno Ffenestr Liwiedig
gan
Ddeon Tyddewi,
Y Tra Pharchedig T E Jenkins, B.A., B.D.
Dydd Sul, Ebrill 9 1967 am 2.30pm.
Testun y ffenestr yw:
Crist yn rhoddi golwg i’r dyn dall.
Yr arysgrifen yw y canlynol:
Er gogoniant i Dduw, ac er cof annwyl am Henry a Mary Stephens, Bridge House.
Rhodd May, eu merch, ac Evan Picton Walters, ei phriod.
Gellir gweld trefn y gwasanaeth yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523521
8. Deoniaeth Emlyn 1917-67 Gwasanaeth Dathlu Hanner Can Mlwyddiant yr Ŵyl Ddirwestol
yn
Eglwys St Barnabas,
Gorffennaf 28, 1967.
2.30pm Gwasanaeth y Plant
Anerchiad gan y Parch J S Jones, Ficer Llanllwni.
6.30pm Gosber
Anerchiad gan y Tra Pharchedig T E Jenkins, Deon Tyddewi
“Yn ymgadw ym mhob peth”
Gellir gweld y salmau a’r emynau yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523527
9. Cyngerdd Cysegredig gyda’r Organ (Vocal and Organ Recital)
Nos Iau, 17 Ebrill 1969.
Drysau’n agored am 7.30pm I ddechrau am 8.00pm
Organydd:
Y Parch Alun Howells, Caerfyrddin
Artistiaid:
Ifor Lloyd, Aberaeron
Patricia O’Neill, Pontarddulais
Ann Winston, Drefach.
Llywydd:
Mrs J L Owen, Preswylfa, Felindre
Mynediad drwy raglen
Pris 4/- Plant 2/-
Ni chyflwynir yr eitemau, a gofynnir i’r gynulleidfa beidio curo dwylo.
Parch M D Jones, Rheithor, yn cyhoeddi’r fendith.
Gellir gweld rhestr o’r caneuon a’r adroddiadau yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523531
10. Gwasanaeth Cyflwyno Drws Newydd
gan
Y Tra Pharchedig T E Jenkins, B.A., B.D.
Dydd Sul, Mehefin 12, 1977 am 2.00pm.
Rhoddir y drws newydd i Eglwys Sant Barnabas gan Mr Evan Picton Walters, Green St, Aberteifi er cof am ei annwyl briod, Mary (May) Walters
Gellir gweld trefn y gwasanaeth yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523535
11. Dathlu 150 Mlwyddiant 1863 - 2013
15 Mehefin 7.00pm
Cyngerdd
Cerddorfa Acordion Abertawe
3 Gorffennaf
2.00pm Gwasanaeth Plant Ysgol Penboyr
7.00pm Gwasanaeth Cymun Bendigaid
Yr Hybarch Dr William Strange, Archddiacon Aberteifi
7 July 2.00pm
Gwasanaeth Dathlu
Rheithor:
Parch Ddr John Gillibrand
Wardeniaid:
Mr Brian Bushby-Jefferson
Mr Peter Moody
Organydd:
Mrs Marian Jones
Pregethwr gwadd:
Parch Aled Edwards,
Prifweithredwr CYTÛN
Gellir gweld yr emynau yn y daflen, www.casgliadywerin.cymru/items/523497