Chwilio Cronfa Ddata'r Fynwent
Noder: Mae’r gronfa ddata yn cynnwys claddedigaethau rhwng 1863 a 2017. Gellir cael manylion am gladdedigaethau mwy diweddar trwy gysylltu â ni.Os ydych yn gwybod rhif y bedd mae gennych ddiddordeb ynddo symudwch y llygoden dros y bedd hwnnw ar y map, cliciwch ar y chwith ac fe welwch yr wybodaeth. Ar ôl gorffen cael golwg ar yr wybodaeth caewch y ffenestr ac wedyn gallwch ddechrau chwilio eto.
Os nad ydych yn gwybod rhif y bedd ond yn gwybod rhywbeth am y person rydych chi’n chwilio amdano, er enghraifft “ Cyfenw” neu “ Enw Cyntaf” neu “ Dyddiadau Marwolaeth, Geni”, teipiwch yr wybodaeth sydd gennych ac yna cliciwch ar “Chwilio Manwl” uwchben y map. Bydd unrhyw feddau sy’n cydweddu â’r wybodaeth rydych chi wedi ei roi yn cael eu hamlygu’n goch. Cliciwch ar y chwith dros unrhyw fedd sydd wedi ei amlygu’n goch ac fe ddangosir yr holl wybodaeth am y bedd hwnnw. Os oes mwy nag un person wedi ei gladdu yno fe ddangosir manylion am un person gyda dolen i’r lleill mewn glas. Cliciwch ar y chwith ar enw arall a bydd y manylion yn newid. I ddechrau chwilio eto, caewch y manylion sydd o’ch blaen ac yna dechreuwch chwilio eto.
Er enghraifft: teipiwch “Long” yn y maes “Cyfenwau" a phwyswch ar y botwm “Chwilio Manwl” uwchben y map a bydd dau fedd yn cael eu hamlygu’n goch. Dewiswch un o’r beddau ac fe ddangosir yr wybodaeth. (Bedd 318 Desmond & Samantha Long) (Bedd 335 Connie & Herbert Long).
Zoom -
Zoom +