Gwasanaethau yn St Barnabas
Croeso i St Barnabas, eglwys ein pentref.
Mae’r eglwys ar agor bob dydd, 10 y.b. i 3 y. p. - dewch i edrych o gwmpas, i weddïo neu i fod yn dawel am ychydig.
Hoffem gyfarfod â chi yn un o’r gwasanaethau wythnosol ac ar gyfer coffi wedyn.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned leol, a disgyblion ac athrawon Ysgol Wirfoddol Penboyr sydd yn defnyddio’r Eglwys yn rheolaidd i ddathlu’r gwyliau Cristnogol blynyddol.
AMSERAU'R GWASANAETHAU
- Sul 1af: 11:00am Eglwys Gaffi Dwyieithog (Gwasanaeth Anffurfiol, Pob Oed gyda Choffi + Te, Canu, Darllen, Trafod a Gweddi)
- 2il Sul: 11:15am Cymun Bendigaid Dwyieithog
- 3ydd Sul: 11:15am Cymun Bendigaid Cymraeg
- 4ydd Sul: 10:15am Cymun Bendigaid Saesneg
- 5ed Sul: 10:30am Gwasanaeth y Grŵp Dwyieithog
Noder
Gall amserau ac iaith y gwasanaethau amrywio yn dibynnu ar bwy sy’n arwain y gwasanaeth. Nodir unrhyw newidiadau ar hysbysfwrdd yr eglwys.
Mae gwasanaeth grŵp y 5ed Sul yn cylchdroi rhwng 5 eglwys yr ofalaeth. Ceir manylion ar hysbysfwrdd yr eglwys.